Mae Grŵp Llandrillo Menai yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol i ymuno â’r Tîm Rheoli Gweithredol. Mae hwn yn gyfle eithriadol i ymuno â’n coleg ar adeg o gyfleoedd gwych. Ers yr uno, mae’r Grŵp wedi mynd o nerth i nerth, ac rydym nawr yn edrych ymlaen at weld ein penodiad newydd yn ein helpu i barhau â’n taith ragorol.

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Corfforaethol byddwch yn aelod o’r Tîm Rheoli Gweithredol ac yn arweinydd strategol ar Wasanaethau Corfforaethol ar draws y Grŵp, gan gyfrannu at broses cynllunio strategol y Grŵp. Byddwch yn arwain swyddogaethau’r Gwasanaethau Corfforaethol ac yn sicrhau eu bod yn rhedeg yn effeithlon, a bod prosesau a gweithdrefnau safonol yn cael eu cyflwyno ar draws y Grŵp er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Strategol y Coleg. Byddwch hefyd yn aelod dylanwadol o holl grwpiau rhwydwaith Colegau Cymru a Collab, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi fod ag agwedd gydweithredol, hyblyg a brwdfrydig at eich gwaith. Rydym yn chwilio’n benodol am rywun sydd â chymhwyster Cyfrifydd Siartredig priodol ac sy’n gallu dangos y gallu i gynllunio’n strategol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio rhagorol a’r gallu i reoli newid yn llwyddiannus, yn ogystal â’r gallu i wneud penderfyniadau clir mewn amgylchedd o bwysau uchel.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 28 Chwefror 2022 a bydd y broses gyfweld ac asesu yn cael ei chynnal ar 14 Mawrth 2022.

Overview

Coleg: Grwp Llandrillo Menai

Lleoliad: Gogledd Cymru

Cyflog: c£120k a lwfans car a pensiwn hael

Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais: 28/02/2022

Canolfan Asesu: 14/03/2022

Download an application pack

Download an application pack for this role by providing your details below.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.