A ydych am ymuno â thîm deinamig sydd â gweledigaeth glir i wella safonau ac ymdrechu am ragoriaeth ym mhopeth a gynigiwn? Dyma gyfle cyffrous i unigolyn sy’n gallu dangos tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu, trefnu ac arwain rhagorol.
Eich briff fyddai bod yn arweinydd strategol ar gyfer ystod o feysydd cymorth busnes gan gynnwys Cyllid, Pobl a Diwylliant, Digidol, Y Gymraeg, Ystadau, Arholiadau a SGRh. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Busnes a Rhyngwladol i gefnogi a datblygu gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau masnachol a phrentisiaethau. Rydym yn chwilio am rywun sydd â set sgiliau trosglwyddadwy, sy’n rhoi sylw i fanylion ac sydd â’r potensial a’r uchelgais i wneud cyfraniad strategol i’r coleg.
Mae gan Goleg y Cymoedd drosiant o tua £50m, mae’n cyflogi tua 830 o staff ac mae ganddo oddeutu 10,000 o ddysgwyr yn astudio yn bennaf ar ei gampysau yn Aberdâr, y Rhondda, Nantgarw ac Ystrad Mynach. Mae’r coleg yn cynnig cwricwlwm AB cynhwysfawr a chynhwysol o lefel mynediad hyd at lefel 4 ac mae hefyd yn cynnig ystod o raglenni AU o HNC hyd at raddau llawn, mewn partneriaeth â phrifysgolion lleol.
Gallwch gyflwyno’ch cais yn Gymraeg ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Ffurfiwyd Coleg y Cymoedd yn 2013, ar ôl i Goleg Ystrad Mynach a Choleg Morgannwg uno. Mae dros 10,000 o ddysgwyr yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd bob blwyddyn gyda safleoedd yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach. Mae’r coleg yn cynnig ystod eang o bynciau Addysg Bellach Cyffredinol o Lefel Mynediad bob cam hyd ein cyrsiau Addysg Uwch.
Mae’r coleg yn cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer dysgwyr yn cynnwys cyrsiau llawn amser, rhaglenni prentisiaeth, cyrsiau CGE, cyrsiau addysg uwch ac oedolion ar gyrsiau rhan amser. Mae’r coleg yn ystyried llesiant dysgwyr a staff yn fater difrifol iawn. Mae ein dysgwyr yn anhygoel, llawer ohonyn nhw’n dod o ardaloedd gwledig difreintiedig a heriol ac maen nhw’n gwneud cynnydd sylweddol gyda ni.
Rydym ni’n goleg gyda 4 campws bywiog y buddsoddwyd yn sylweddol ynddyn nhw yn y blynyddoedd diweddar, yn cynnwys yr adeilad ar Gampws Nantgarw (campws arobryn gwerth £40 miliwn), Campws Aberdâr (agorwyd y campws gwerth £22 miliwn yn 2017), cyfleusterau heb eu hail ar gyfer Hyfforddiant Gwaith Rheilffyrdd a Cherbydau Modur. Rydym ni wedi ymrwymo’n barhaus i fuddsoddi yn ein pobl a’n hadnoddau ffisegol.
Pan gawsom ein harolygu gan Estyn yn 2017, cawsom ein hasesu’n goleg ‘Digonol’ gyda rhagolygon o fod yn Dda. Ers yr arolygiad mae ein deilliannau wedi gwella’n sylweddol. Mae gennym brosesau effeithiol i reoli a gwella ansawdd ac mae ein Llywodraethwyr yn ystyried ansawdd ein darpariaeth gyda gwir ddifrifoldeb ac maen nhw’n rhan o Deithiau Dysgwyr. Mae data ein perfformiad yn dda ac rydym ni yn ei ddeall ac yn gwybod ble gallwn ni wneud gwelliannau ar ôl Covid.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf derbyniodd y coleg incwm o bron i £52 miliwn, cynnydd o £7 miliwn ar y flwyddyn 2019-20. Roedd hyn yn cynnwys cymorth gwerthfawr gan Lywodraeth Cymru er mwyn parhau i gyflenwi drwy gydol y pandemig. Ystyrir bod ein setliad ariannol yn foddhaol a bydd yn ein galluogi i gyflenwi ein cenhadaeth er mwyn datblygu’r coleg. Drwy fesurau a dderbynnir yn gyffredinol yn y sector, mae’r coleg yn ariannol gadarn a lefelau ariannol cryf yn erbyn lefel gymharol isel o ddyled i’r banc. Mae ein staff yn fedrus iawn ac yn uchel eu symbyliad sy’n rhan o system gyflenwi effeithiol.
Mae ein heffaith ar y cymunedau lleol o ran addysg a sgiliau yn sylweddol ac mae teuluoedd, cymunedau a busnesau a chyflogwyr i gyd yn ein gwerthfawrogi. Rydym ni’n ymestyn ein Cynllun Strategol i mewn i’r flwyddyn nesaf fel y gellir ymglymu ein Pennaeth a’n Prif Weithredwr newydd yn eu datblygiad er mwyn sicrhau bod y coleg yn parhau i gynnig cymorth a ffocysu ar y mannau priodol.
Un Coleg, pedwar campws gwych:
- Campws Aberdâr
- Campws Nantgarw
- Campws Rhondda
- Campws Ystrad Mynach
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Ian Sackree (07795 271559) neu Dan Bacon (07934 062726).
Os hoffech chi wneud cais am y swydd hon, yna: Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon ar e-bost at cymoedd@protocol.co.uk gyda’r pennawd “Is-bennaeth a Phrif Swyddog Gweithredu”. Dylech hefyd lenwi’r ffurflen cyfleoedd cyfartal ac atodi eich CV. Yn eich cais, eglurwch yr hyn a’ch symbylodd i wneud cais a’r wybodaeth a’r profiad y gallwch eu cynnig i’r rôl, ac yn enwedig eich gallu i gwrdd â’r meini prawf a geir yn y fanyleb person.
Bydd Protocol yn cydnabod eu bod wedi derbyn y cais drwy anfon e-bost at bob ymgeisydd cyn pen 24 awr. Os na dderbyniwch gydnabyddiaeth, yna ffoniwch Dan Bacon (07934 062726).
Mae’n bwysig eich bod yn cynnig tystiolaeth o’ch profiad a’ch gwybodaeth, yn dangos sut mae hwn yn cyfateb i’r meini prawf yn y fanyleb person.
Rhowch enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt dau ganolwr; eich cyflogwr cyfredol neu’ch cyflogwr mwyaf diweddar ddylai fod yn un o’r canolwyr. Rydym ni’n disgwyl cysylltu â chanolwyr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer, oni bai eich bod yn nodi fel arall.
Amserlen Recriwtio:
Dyddiad Cau | Dydd Mawrth 7 Mehefin 2022 am 9.30 |
Canolfan Asesu | 2 ddiwrnod – 30 Mehefin a 1 Gorffennaf 2022 |

Overview
Organisation: Coleg y Cymoedd
Location: South Wales
Salary: £90k
Posted date: 20/05/2022
Closing Date: 07/06/2022